Cyfres Efengyl Luc Rhan 26 Luc 9:46-50 Recap Tro diwethaf fe ddechreuon ni edrych ar y pwt yma a chanolbwyntio ar y ddadl roedd y disgyblion yn cael ymhlith eu gilydd: “pwy ohonyn nhw oedd y pwysicaf”. Ar ôl i ni gael y chwerthin allan o'r ffordd ni'n dechrau gweld mae nid jest banter di-niwed oedd yn digwydd yma. Ond roedd y disgyblion yn stryglo gyda rhan o'r natur ddynol sy'n dod a'r gwaethaf allan o'r rhan fwyaf ohonom ni sef balchder – pride. Roeddwn i'n cyffesu fod balchder/pride yn rhywbeth mae Gweinidogion yn stryglo gyda fel pawb arall. Fe wnaetho ni weld tro diwethaf fod balchder yn ein rhwystro rhag bod yn onest gyda ni ein hunain, gyda eraill a gyda Duw ei hun. Un o broblemau person balch yw fod hi'n anodd i berson balch newid. Mae person balch yn unteachable. Mae calon galed gan berson balch. Ac felly tro diwethaf wnaetho ni weld mae un o'r camau cyntaf wrth ystyried beth ydy e i fod yn ddisgybl i Iesu yw ein bod ni'n bobl sy'n rhoi ein balchder i'r ochr.Yn agor a meddalu ein calonnau i Dduw wneud rhywbeth newydd a prydferth ynom ni. Gan nodi – fod ein balchder – yn llawer rhy aml yn rhwystro gwaith Duw yn ein bywydau. Wythnos yma rydym ni'n dychwelyd at yr hanes yma i fyfyrio ym mhellach ar beth roedd Iesu'n dysgu'r disgyblion yma am hanfod bod yn ddisgybl yn Neyrnas Dduw. Gostyngeiddrwydd nid balchder "47 Roedd Iesu'n gwybod beth oedd yn mynd drwy eu meddyliau, a gosododd blentyn bach i sefyll wrth ei ymyl. 48 Yna meddai wrthyn nhw, “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i'r plentyn bach yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn croesawu'r Un sydd wedi fy anfon i. Mae'r un lleia pwysig ohonoch chi yn bwysig dros ben.” Fel delwedd mae Iesu yn defnyddio plentyn. I ddeall ergyd y ddelwedd yma mae angen i ni fynd mewn peiriant amser nol i amser y Beibl. Oherwydd heddiw mae plant yn cael lle arbennig mewn cymdeithas. Mae yna ddeddfau yn eu gwarchod, arian gan y llywodraeth i helpu eu magu, mae gyda ni Gomisiynydd Plant sy'n eiriol dros achos plant. Ond roedd cymdeithas amser y Beibl yn wahanol. Roedd plant – fel merched – yn cael lle israddol mewn cymdeithas. Roedd plant, fel merched, yn ddiamddiffyn, heb hawliau a jest ddim yn bwysig yng ngolwg cymdeithas ar y pryd. Mae rhaid i ni ddeall y cyd-destun diwylliannol yna er mwyn deall pa mor radical a chwyldroadol oedd yr hyn roedd Iesu yn trio cael y disgyblion i ddeall fan hyn. Un o nodweddion Teyrnas Dduw - ac felly yr hyn ddylai nodweddu disgyblion Iesu oedd eu bod, yn gyntaf, yn rhoi croeso i'r union bobl doedd cymdeithas yn gyffredinol ddim yn eu croesawu. Gweithredoedd yn ogystal a'n hagwedd calon yn bwysig. Ac mae Iesu yn mynd un cam ymhellach. Mae'n dweud fod rhywun sy'n rhoi croeso i'r plentyn (neu y lleiaf mewn cymdeithas), drwy wneud hynny, yn rhoi croeso iddo fe. A mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i Iesu yn rhoi croeso i Dduw. Hynny yw – mae beth mae rhywun yn gwneud a sut mae rhywun yn byw yn gymaint rhan o fod yn ddisgybl i Iesu ac y mae beth mae rhywun yn ei gredu. Yn ein traddodiad Cristnogol Cymraeg Diwygiedig ni rydym ni wedi rhoi yr holl bwyslais ar ffydd. 'Trwy ffydd yn unig rydych yn gadwedig' . . . wel ie ... ond eto nid dyna'r stori i gyd. Mae'r Beibl yn dysgu fod ffydd heb weithredoedd yn farw. Nid eich gweithredodd – orthopraxy - sy'n eich gwneud chi'n Gristion. Ond nid eich ffydd – neu eich orthdoxy chwaith – nid eich gallu i ddeall a chredu y pethau iawn yw'r unig beth sy'n cyfri chwaith. Mae cyfrinach Teyrnas Dduw rhywle yn y canol creadigol a blêr yma rhwng ffydd ac yn byw mewn ffydd. Eglurebau Rhowch y peth mewn i gyd-destun arall. Roedd hi'n ddydd Sant Ffolant ddydd Iau. Ac roedd ffrind i fi yn Morrisons yn ciwio am y peiriannau self-checkout ac roedd pump o ddynion eraill o'i flaen a pob un ohonyn nhw yn prynu un eitem – bwnshed o rosod! Ydy'r dynion yma yn caru eu gwragedd ac felly yn prynu rhosod? Neu ydy nhw'n prynu rhosod a drwy hynny yn caru eu gwragedd? Pan chi'n rhoi y peth mewn i gyd-destun arall chi'n gweld fod perthynas agos – os nad amhosib ei wahanu – rhwng meddwl a gweithred. Rhwyfo Neu – meddyliwch am rwyfo. Un rhwyf yw ffydd. A'r rhwyf arall yw gweithredoedd. Os fyddw chi dim ond yn rhwyfo un ochr – ochr ffydd dwedwch – fyddwch chi jest yn mynd rownd a rownd mewn cylchoedd. Ac mae yr run peth yn wir am y rhwyf ochr arall – rhwyf gweithredoedd. Ond – os fyddw chi'n tynnu ar y ddau gyda'i gilydd yna bydd y cwch yn symud yn ei flaen wedyn. Ac mae hynny yn eglureb efallai i ni ddeall fod ffydd (orthodoxy) a gweithredoedd (orthopraxy) yr un mor allweddol a'i gilydd yn y daith o fod yn wir ddisgybl i Iesu. Disgyblion ddim yn deall Ond dydy'r disgyblion – hyd yn oed ar ôl i Iesu egluro – dal ddim yn deall beth yw hanfod bod yn ddisgybl iddo fe. “Feistr,” meddai Ioan, “gwelon ni rywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.” (Ad. 49) O arall eirio Ioan . . . “Iesu, ti'n dweud fod modd adnabod pwy sydd yn perthyn i ti ar sail beth maen nhw'n gwneud. Ond, mae'r boi yna lawr y ffordd yn bwrw allan cythreuliaid yn dy enw di. Ond all e byth bod yn un sy'n perthyn i ti achos dyw e ddim yn ein gang ni!” Ac fan hyn ni'n gweld Ioan yn gwneud yr run camgymeriad ac mae Cristnogion wedi ei wneud drosodd a throsodd dros y canrifoedd. Sef meddwl fod ganddyn nhw fonopoli ar pwy oedd yn gang Iesu. Meddwl mai rhyw fath o fascot i'w gang nhw, a'u gang nhw yn unig oedd Iesu. Daeth Iesu i'r byd gyda newyddion da i bawb. Ond yn llawer rhy aml mae ei ddisgyblion wedi ei droi yn newyddion mediocre i ychydig. Genhedlaeth yn ôl yr her oedd ceisio gweld lle roedd Duw ar waith mewn traddodiadau Cristnogol gwahanol i ni. Ond heddiw, yn ein oes seciwlar ni – mae rhaid i ni fod yn agored hyd yn oed i weld lle mae Duw ar waith tu allan i ffiniau yr eglwys yn llwyr. Oherwydd fel mae Iesu'n dweud wrth Ioan: “Os ydy rhywun ddim yn eich erbyn chi, mae o'ch plaid chi.” (Ad. 50) Cymhwyso – belong, believe, behave Dwi'n meddwl fod yr adnodau yma nid yn unig yn ein dysgu ynglŷn a bod yn ddisgybl i Iesu. Ond mae hefyd yn gosod her ynglŷn a'n galwad ni fel disgyblion i wneud mwy o ddisgyblion i Iesu. Mewn geiriau eraill – mae y testun yma yn herio sut rydym ni'n gweld a deall cenhadaeth.Genhedlaeth yn ôl y llwybr i mewn i'r eglwys Gristnogol – i mewn i'r gang – a defnyddio iaith yr adnodau yma. Oedd . . . behave, believe ac yna belong. Hynny yw – mewn cymdeithas Gristnogol roedd disgwyl i chi yn gyntaf fihafio mewn ffordd arbennig. Roedd cael eich gweld yn byw bywyd parchus yn bwysig. Os oedde chi'n bihafio fel “Cristion” mi fyddai yna groeso i chi yn yr eglwys. Maes o law roedd cyfle wedyn i ystyried sylwedd y neges Gristnogol ac i gredu. Ac ar ôl hynny, a dim ond ar ôl hynny, roedde chi'n cael eich derbyn ac yn cael perthyn i'r gang. Yn anffodus mae'r agwedd meddwl yna wedi plannu syniad yn is-ymwybod llawer o bobl mae'r unig beth ydy Cristnogaeth ydy pobl sy'n cadw at reolau a dim mwy. Ac mae'r agwedd meddwl hefyd wedi cyfrannu at y pellter sydd nawr rhwng y rhan fwyaf o eglwys a chymdeithas yn gyffredinol. Dwi am awgrymu fod y model mae Iesu'n ei gynnig yn y Beibl a wneud disgyblion yn wahanol ac yn fodel wneith ein helpu ni heddiw yn ein gwaith a'n galwad i wneud disgyblion yn yr oes seciwlar sydd ohoni. Yn hytrach na dilyn y model behave, believe, belong. Beth am ei droi ar ei ben: belong, believe ac yna behave. Roedd teulu Iesu Grist o'r cychwyn yn un oedd yn croesawu pobl a breichiau agored. Doedden nhw ddim yn bobl oedd yn byw bywydau parchus a doedden nhw ddim wastad yn deall popeth am Dduw a ffydd, ac yn aml yn reslo gyda amheuon. Mae angen i ni groesawu pobl a gwneud i bobl deimlo fod cartref a croeso iddyn nhw yn yr eglwys – hyd yn oed pan fo'i bywydau dal yn flêr a'u bod dal i chwilio am ffydd. Wedyn, ar ôl i bobl deimlo eu bod yn perthyn rhaid i ni beidio meddwl wedyn fod rhaid i ni eu troi i fod fel ni. Rhaid i ni beidio mynd ati i daclo eu hymddygiad heb yn gyntaf eu cyflwyno at yr Un sy'n gallu ein newid ni o'r tu mewn tu allan. Dim ond ar ôl i rywun ddal gafael ar y gwirionedd fod Iesu wedi eu caru a'u derbyn jest fel y maen nhw y gall rhywun wedyn adael i'r Iesu hwnnw hefyd ein newid ni. Fel y dywedodd rhywun unwaith: 'Mae Duw yn ein caru jest fel ydym ni. Ond mae'n ein caru ni ormod i'n gadael ni fel ydym ni.' Clo I orffen felly, gadewch i ni edrych at eiriau Iesu i gael gweld beth yw hanfod bod yn ddisgybl iddo fe. Allw ni ddim dod yn ddisgybl iddo trwy ein ymdrechion. Ond mae bod yn ddisgybl i Iesu yn fwy hefyd na jest beth 'da ni'n credu. Mae bod yn ddisgybl i Iesu yn rhywbeth sydd yn y canol blêr rhwng credu a byw. A gadewch i ni dderbyn y rhybudd gan y disgyblion cyntaf yma i wylio nad ydy ein diwylliant Cristnogol yn cau pobl allan o'r gang – ond yn hytrach yn gwahodd pobl i mewn i deulu – teulu Duw.