Cyfres Ruth Rhan 6 Ruth 2 Cyflwyniad a re-cap Dyma hen hen hanes sy'n adrodd am fywyd a taith ffydd Naiomi a Ruth. Dyma hanes am bobl sy'n dysgu dewis ffydd dros ofn a hynny pan mae eu byd i weld yn cwympo'n ddarnau o'u cwmpas. Dyma hanes am ymwneud Duw gyda Naiomi a Ruth. Dyma hanes am oleuni a gobaith Duw yn torri trwy y tywyllwch mwyaf. Dyma hanes sy'n ein dysgu ni fod Duw yn dod a gobaith i wraig o Fethlehem a Moab run fath. Dyma hanes sy'n ein dysgu fod Duw yn cymryd ochr y tlawd, y newynog, y ffoadur a merched dros y byd sy'n ddioddefwyr i batriarchiaeth. Dyma hanes sy'n gorfodi dynion i weld ein hagwedd meddwl o drin merched yn israddol am beth yw e – sef pechod. A dyma hanes – yn y diwedd – sy'n ein gorfodi ni weld sut mae yr un themâu yn amlygu ein hunain mewn cymdeithas heddiw. Dyma hanes sy'n herio yr eglwys i ddangos gobaith yn yr un ffordd a mae Duw, trwy Boas, yn dod a gobaith i'r sefyllfa yma. Ie – dyma hanes taith Naiomi a Ruth gyda Duw – ond dyma hefyd ddrych falle o daith ffydd ein bywydau ni. Lloffa Erbyn y pwynt yma yn yr hanes mae Naiomi a Ruth wedi cyrraedd Bethlehem. Mae Naiomi wedi cyrraedd adref ac mae Ruth yn cychwyn cyfnod o fyw fel tramores mewn gwlad newydd. Ond er fod Naiomi yn dod adref – doedd hi ddim yn dod adref i unrhywfath o ddiogelwch oherwydd ei bod hi yn ferch ac yn weddw mewn cymdeithas ofnadwy o batriarchaidd. Ond mi oedd gan Israel rai pethau mewn lle yn eu deddfau er mwyn rhoi cymorth i'r tlawd, y gweddwon, yr amddifad a'r ffoaduriaid i ofalu am eu hunain. Ac un o'r deddfau yma oedd deddf y llofa rydym ni'n gallu darllen amdano yn Lefiticus: Pan fyddi'n casglu'r cynhaeaf, rhaid i ti beidio casglu'r cwbl o bob cornel o'r cae. A phaid mynd drwy'r cae yn casglu popeth sydd wedi'i adael ar ôl. Paid casglu'r grawnwin sy'n dy winllan i gyd. A phaid mynd drwy'r winllan yn casglu'r ffrwyth sydd wedi disgyn ar lawr. Rhaid i ti adael peth i bobl dlawd, ac i'r rhai sydd ddim yn bobl Israel. Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di. (Lefiticus 19:9-10) Y ddeddf yma ac rhai tebyg oedd gwladwriaeth lês Israel. Ac roedd hwn yn un ffordd oedd yn gwneud cenedl Dduw yn wahanol i lawer o'r cenhedloedd o'u cwmpas. A'r rheswm mod i'n codi hyn yw oherwydd fod hwn yn un maes hefyd lle y dylai Cristnogion fod yn wahanol ac arwain ynddo. Sut mae cymdeithas yn trin y gweddwon, y tlawd, yr amddifad a'r tramorwyr yn ein plith? Mae Cristnogion wedi arwain gyda hyn, a dylem ni barhau i wneud hynny. Cywilydd Er fod y ddeddf yn darparu ar gyfer pobl fel Naiomi a Ruth. Er fod hawl cyfreithiol ganddyn nhw loffa a chael cyfle i gasglu ychydig o fwyd. Doedd hynny ddim yn golygu eu bod nhw'n rhydd ac yn saff – ddim o gwbl. Roedd yna rhyw fath o gywilydd cymdeithasol ynghlwm a gorfod mynd i loffa am eich bwyd. Os oeddech chi'n mynd i loffa roeddech chi wedi tarro'r gwaelod go-iawn oherwydd roedd eich angen am fwyd yn fwy na'ch synnwyr o hunanbarch. Oherwydd drwy fynd i loffa o flaen pawb roedde e'n ddatgeliad cyhoeddus o'ch tlodi – ac roedd stigma a chywilydd cymdeithasol yn dod gyda hynny. I rywun fel Naiomi, oedd yn arfer bod yn aelod parchus o'r gymuned yn Bethlehem, mi fyddai anfon ei merch-yng-nghyfraith allan i loffa yn ergyd mawr i'w synnwyr hi o hunan barch. Urddas pobl yn bwysig Mae'r gymhariaeth gyda rhai problemau mae ein cymdeithas heddiw yn ei wynebu yn amlwg iawn. Er fod y wladwriaeth lês ddim yr hyn dylai fod – i gymharu a llawer o wledydd mae traddodiad cryf gyda ni ers yr Ail Ryfel Byd o gynnal gwladwriaeth lês er mwyn cynnal y tlotaf mewn cymdeithas. Lle bo'r wladwriaeth lês yn methu mae elusennau ac eglwysi wedi camu mewn i ddarparu gwasanaethau fel Y Banc Bwyd. Ac mae pethau fel y wladwriaeth lês, ac gwasanaethau fel y Banc Bwyd yn gallu mynd i'r afael ac anghenion materol a thymor byr pobl. Ac mae'n gywir ac yn Feiblaidd i Gristnogion ac Eglwysi daflu eu hunain mewn i gefnogi pethau fel hyn. Ond fel yn amser Ruth a Naiomi – roedd y deddfau lloffa Moses fod i atal pobl rhag llwgu yn llythrennol. Ond eto, dim ond hanner y stori oedd hynny. Roedd pobl ddim wirioneddol yn rhydd os oedden nhw yn gorfod dibynnu ar hand-me-downs gan eraill. Doedd pobl ddim wir wedi eu hadfer os nad oedd eu hurddas fel pobl yn cael ei anrhydeddu eto. Yr Efengyl yn delio gyda'r gwraidd nid jest yn symptom A dyna pam mae mor bwysig ein bod ni fel Cristnogion ac Eglwys yn sylwi fod yr alwad i warchod, siarad dros a darparu i'r tlotaf mewn cymdeithas wastad yn gorfod dod law yn llaw a'r alwad i ddweud wrth fyd a pobl bregus fod yna Dduw sydd yn eu caru ac sy'n dymuno adfer urddas yn eu bywyd. Lle mae cymdeithas falle yn dweud fod rhywun yn ddi-werth – mae Duw yn dweud wrth bawb eu bod nhw'n werthfawr ac wedi eu creu yn hardd ar ei lun a'i ddelw ei hun. Dyma pam – dwi wedi fy argyhoeddi ers blynyddoedd fod yr efengyl Gristnogol yn rhywbeth rydym ni fod i'w rannu mewn gair a gweithred. Mae gyda chi rai traddodiadau Cristnogol yn pwysleisio dangos cariad Duw mewn gweithredoedd. Yn hanesyddol roedd y traddodiad yma yn cael ei adnabod fel “Yr Efengyl Gymdeithasol” Traddodiadau eraill yn pwysleisio'r gair. Mewn rhai cylchoedd roedd hyn yn nodweddu Cristnogaeth “efengylaidd”. Ond dydym ni ddim wir yn gweld y binary choice yna yn y Beibl ac yn arbennig yng ngweinidogaeth Iesu a'r Eglwys fore. Mae'r genhadaeth Gristnogol yn delio ac angen materol ac ysbrydol rhywun. “Evangelicalism divorced from radical and wholehearted social responsibility will fail and will deserve to fail.” D. Densil Morgan, Span of the Cross Dydy Cristion sy'n rhoi taflen yn sôn am y neges Gristnogol i berson llwglyd heb hefyd roi pryd o fwyd i'r person yna ddim yn gwneud cyfiawnder ag efengyl Iesu Grist. Yn yr un modd ac nad ydy eglwys sy'n bwydo'r tlawd heb ddelio yn ogystal a beth sydd wrth wraidd problem tlodi ddim yn gwneud cyfiawnder ag efengyl Iesu. Yn hanes Naiomi a Ruth mae eu hangen materol yn cael ei ddelio ag e – ond wedyn mae eu hurddas hefyd yn cael ei adfer. Rhagluniaeth Duw yn hanes Ruth a Naiomi Yn y bennod yma mae Boas yn dod mewn i'r stori. Dyn oedd yn gymharol gyfoethog, llwyddiannus, dyn o statws. A'r cwestiwn mae unrhywun sydd mewn pŵer a statws yn ei wynebu yw hyn: beth i wneud gyda'ch pŵer a'ch statws? Mae yna ymadrodd Saesneg: “With great power comes great responsibility.” Yr arfer ar y pryd yn y gymdeithas batriarchaidd yma oedd i ddynion mewn pŵer gymryd mantais o'u sefyllfa er eu budd eu hunain. Ond roedd Boas yn wahanol – nid yn unig ei fod wedi caniatáu i Ruth loffa yn ei gaeau (wedi'r cyfan, fel dyn crefyddol barchus roedd rhaid iddo wneud hynny) ond fe aeth yr ail-filltir a sicrhau ei diogelwch. Ac nid cyd-ddigwyddiad oedd hi mae yng nghae Boas yn landiodd Ruth fyny yn Lloffa. Na – oherwydd roedd yna gymeriad arall ar waith yn yr hanes yma sef Duw ei hun. Roedd Duw wedi arwain a gwau taith bywyd Naiomi a Ruth ar ei gilydd ac nawr roedd Duw yn dechrau gwau trydydd cainc y stori i mewn sef Boas. Diolch i Boas ... ac i Dduw Rydym ni'n deall wedyn fod Ruth wedi dychwelyd adre at Naiomi wedi hel llwyth o fwyd. A Naiomi yn gofyn i Ruth: “Ble fuost ti'n gweithio ac yn casglu grawn heddiw? Bendith Duw ar bwy bynnag gymrodd sylw ohonot ti!” A dyma Ruth yn esbonio lle roedd hi wedi bod. “Boas ydy enw'r dyn lle roeddwn i'n gweithio,” meddai. (Ad. 2:19) Ac yna Naiomi yn mynd ymlaen i ddweud: “Bendith yr ARGLWYDD arno!” meddai Naomi, “Mae e wedi bod yn garedig aton ni sy'n fyw a'r rhai sydd wedi marw. Mae'r dyn yma yn perthyn i ni. Mae e'n un o'r rhai sy'n gyfrifol amdanon ni.” (Ad. 2:20) Mae'n debyg fod yna rhywfaint o amwysedd yn yr Hebraeg gwreiddiol ynglŷn a phwy yn union mae Naiomi yn siarad amdano yn yr hanner yr adnod. Ydy hi'n siarad am garedigrwydd Boas? Neu garedigrwydd Duw? Ac ar ryw wedd mae yna ateb hawdd – sef y ddau! Ie, Duw sydd tu ôl i bob daioni a phob bendith – ond mewn hanes a bywyd mae'n defnyddio pobl i fendithio pobl eraill. Mae gan Dduw weision yn y byd. Mae Duw – drosodd a throsodd – yn dangos ei gariad yn y byd drwy fywydau a gweithredoedd rheiny sydd wedi ei greu ar ei lun a'i ddelw. Sef, ie Boas, ond hefyd chi a fi. Clo Felly yn y bennod yma – mae stori newydd ym mywyd Naiomi a Ruth yn dechrau cael ei hadrodd. Dydyn nhw ddim yn gorfod gadael i'w gorffennol fel ffoaduriaid, gweddwon a tlodion eu diffinio nhw. Dydy rhygnu byw ar loffion y cae ddim yn gorfod nodweddu eu bywyd o hyn allan chwaith. Mae Duw – trwy Boas – wedi siarad gobaith mewn i'w bywyd eto. Ac mae Duw yn rhoi gwerth ac urddas yn ôl iddyn nhw. Ac mae hon yn stori all fod yn wir i ni ar sawl lefel. Ac mae yna alwad i ni – fel unigolion ac fel eglwys – i fod yn Boas. Ddim jest yn gwarchod a darparu i'r tlawd mewn cymdeithas – ond drwy siarad efengyl Duw mewn i fywydau pobl – adfer eu hurddas hefyd. Er mwyn ei enw – Amen.